Cyfrifoldeb |
Yr Ysgrifennydd Cabinet neu'r Gweinidog sy'n gyfrifol |
Bargeinion Dinesig; |
|
Goruchwylio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), a’i rhoi ar waith, a chysylltu â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol |
Gweithio mewn ffordd strategol er mwyn cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, rheoli perfformiad, trawsnewid gan ddefnyddio datblygiadau digidol a data, materion yn ymwneud â’r gweithlu, cydweithio, archwilio, arolygu, rheoleiddio a chynnwys y cyhoedd; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol |
Diwygio Awdurdodau Lleol yn strwythurol, yn ddemocrataidd, yn ariannol ac yn gyfansoddiadol, gan gynnwys cydgysylltu modelau cyflawni rhanbarthol a’u cydlynu â Diwygio Llywodraeth Leol; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol |
Y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol |
Materion cyfansoddiadol Llywodraeth Leol, trefniadau craffu, cabinetau, meiri etholedig, rôl cynghorwyr, eu hamrywiaeth, eu hymddygiad a'u tâl cydnabyddiaeth; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol |
Trefniadau etholiadol Llywodraeth Leol, noddi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ac amseriad etholiadau Awdurdodau Lleol; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol |
Polisi cyllid Llywodraeth Leol a rhoi cyllid sydd heb ei neilltuo at ddibenion penodol i Awdurdodau Lleol a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu drwy gyfrwng setliadau refeniw a setliadau cyfalaf Llywodraeth Leol; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol |
Llywodraethu ariannol, ariannu a chyfrifyddu mewn perthynas â Llywodraeth Leol; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol |
Trethi lleol, gan gynnwys y Dreth Gyngor, ardrethi annomestig, lleihau'r dreth gyngor a noddi Asiantaeth y Swyddfa Brisio a'r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol |
Materion yn ymwneud â’r gweithlu Llywodraeth Leol (sy'n codi'n bennaf o'r broses ddiwygio) a noddi Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol |
Cydraddoldeb, gan gwmpasu'r nodweddion gwarchodedig dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a hawliau dynol mewn perthynas â Chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig a'r UE. |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol |
Cymunedau yn Gyntaf; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Diwygio Lles; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Cynhwysiant ariannol, gan gynnwys undebau credyd; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Adfywio, gan gynnwys Ardaloedd Adfywio Strategol; adfywio etifeddol; a darparu safleoedd ac adeiladau, tir diffaith a chyflawni gwelliannau amgylcheddol mewn perthynas ag adfywio; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Gweithgareddau’r Awdurdodau Lleol a chymdeithasau tai mewn perthynas â thai, gan gynnwys rheoli tai a dyrannu tai cymdeithasol a fforddiadwy; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Cyflenwad ac ansawdd y farchnad, tai cymdeithasol a fforddiadwy; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Digartrefedd a chyngor ar dai |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Materion yn ymwneud â thai a ddarperir gan y sector rhentu preifat, gan gynnwys rheoleiddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Cymorth ac addasiadau, gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a Grantiau Addasu Ffisegol; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Rhoi cymorth yn ymwneud â thai (ond nid talu'r Budd-dal Tai); |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Rheoleiddio tenantiaethau masnachol sy'n cael eu gosod gan Awdurdodau Lleol; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Cydgysylltu materion mewn perthynas â Sipsiwn a Theithwyr, ceiswyr lloches, mewnfudo, gweithwyr mudol a chydlyniant cymunedol (ac eithrio pan maent yn ymwneud yn benodol â phortffolios eraill a mesurau gwrthderfysgaeth); |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Polisi Troseddu a Chyfiawnder, gan gynnwys Cyfiawnder Ieuenctid; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Diogelwch Cymunedol, gan gynnwys y berthynas â Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu, yr Heddlu ac Asiantaethau Cyfiawnder Troseddol eraill, cynlluniau sifil wrth gefn, parodrwydd am argyfwng a materion gwrthderfysgaeth; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Y Gwasanaethau Tân ac Achub, gan gynnwys gwaith diogelwch rhag tân yn y gymuned; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Arweiniad ar bolisi mewn perthynas â'r Lluoedd Arfog yng Nghymru a Chyn-filwyr; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Caethwasiaeth, cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Y sector gwirfoddol a gwirfoddoli; |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Y cyfrifoldeb arweiniol am fonitro materion sy'n ymwneud â Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol yng Nghymru. |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |